Polisi hygyrchedd
Eich canllaw iach i fwynhau diod
Defnyddio gwe-dechnolegau
Efallai y bydd gwneud newidiadau i osodiadau eich porwr gwe yn eich helpu i ddefnyddio'r wefan hon. Gallwch newid yr opsiynau yn eich porwr i addasu maint y testun, lliw'r testun a lliw'r cefndir. Os ydych yn defnyddio'r fersiwn diweddaraf o Internet Explorer byddwch yn gallu gwrthwneud cynllun lliw y wefan hon a nifer o wefannau eraill.
Cwblhau ffurflenni
Wrth gwblhau ffurflenni ar-lein byddem yn argymell y canlynol:
- Darllenwch y ffurflen gyfan yn ofalus cyn ceisio ei chwblhau
- Pan gwblhewch y ffurflen efallai y bydd yn fwy defnyddiol diffodd Cyrchwr Rhithwir y cyfrifiadur os ydych yn defnyddio'r darllenydd sgrîn JAWS fersiwn 3.3 neu uwch
- Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen, trowch Gyrchydd Rhithwir y cyfrifiadur yn ôl ymlaen a darllenwch yr hyn a nodwyd gennych - yna anfonwch y ffurflen
Newid gosodiadau porwr
I gael Internet Explorer i anwybyddu'r lliwiau a'r ffontiau a ddefnyddir ar wefannau, yn gyntaf ewch i'r ddewislen 'Tools' a dewiswch 'Internet Options'. Yna cliciwch ar y botwm 'Accessibility', a thiciwch y bocsys 'ignore colours', 'ignore font styles' ac 'ignore font sizes'. Yna cliciwch 'Ok' i gadarnhau'r gosodiadau. I newid maint y testun ewch i 'View - text size' a dewiswch y gosodiad rydych fwyaf cyfforddus ag ef (mwyaf, mwy, canolig, llai, lleiaf).
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol newid y lliwiau a ffontiau sydd wedi'u rhagosod ar eich cyfrifiadur. Mae'r weithdrefn ar gyfer gwneud hyn yn wahanol ar gyfer fersiynau gwahanol o Windows a systemau gweithredu eraill. Dylech felly ddarllen cyfleuster Cymorth eich cyfrifiadur i gael cyfarwyddiadau wrth wneud hyn.
Ceir rhagor o wybodaeth o wefan 'My computer my way' AbilityNet yn www.abilitynet.org.uk/myway.
