Eich canllaw iach i fwynhau diod
Beth sy'n wir?
Pa mor wir yw rhai o'n syniadau ni am alcohol?
Myth 1 o 11
Ateb
Anghywir!
Cywir!
2-3 uned y dydd i ferched a 3-4 uned i ddynion yw’r symiau canllaw swyddogol. Mae’r symiau hyn i fod i gael eu gwasgaru trwy’r wythnos, gyda dau ddiwrnod o leiaf heb alcohol ym mhob saith. Mae cynilo eich unedau o’r wythnos a’u hyfed nhw i gyd ar un tro yn gallu eich gadael gyda phenmaenmawr yn bore ac atgofion annifyr am y noson cynt, yn ogystal â chynyddu’r perygl i chi anafu’ch hunain, cael damwain, neu fynd i gwffias.
Anghywir!
Cywir!
Mae alcohol yn effeithio ar yr ymennydd fel anesthetig, gan amharu ar eich gallu i farnu a rheoli’ch symudiadau. Mae’n gwneud i chi ymateb yn fwy araf, felly mae mwy o berygl i chi gael damweiniau ac anafiadau.
Anghywir!
Cywir!
Gall yfed alcohol pan fyddwch chi’n feichiog niweidio’r ffoetws, yn enwedig ar ddechrau’r beichiogrwydd. Mae Prif Swyddogion Meddygol Prydain yn dweud os ydych chi’n feichiog neu’n ceisio beichiogi, y dylech chi osgoi alcohol. Os byddwch chi’n yfed, ddylech chi ddim yfed mwy nag un neu ddwy o unedau’r wythnos.
Anghywir!
Cywir!
Mae anallu dros dro (neu ‘brewer’s droop’) ar ôl pwl o yfed yn broblem gyffredin i ddynion. Gall dynion sy’n yfed yn drwm am gyfnod hirach golli eu hawydd am ryw a’u gallu rhywiol, a gall eu ceilliau a’u pidyn leihau. Pan fydd menywod yfed yn drwm am gyfnod hir, gallant gael problemau beichiogi, a gall y bronnau a’r organau rhywiol grebachu.
Anghywir!
Cywir!
Mae alcohol yn arafu’r corff a’r meddwl yn hytrach na’u hadfywio. Mae’n gwneud i chi symud ac ymateb yn fwy araf, ac mae’n annhebygol o roi rhagor o egni i chi. Gall cymysgu alcohol â diodydd egni siwgwrog roi hwb dros dro chi, ond mae blinder gwaeth fyth a rhagor o awch am sigwr yn debygol o ddilyn.
Anghywir!
Cywir!
Gall alcohol wneud i chi i deimlo’n gysglyd, a’ch helpu i fynd i gysgu’n gyflym, ond fyddwch chi ddim yn cysgu mor dda. Mae astudiaethau’n dangos bod yfed alcohol cymaint â chwe awr cyn mynd i’r gwely’n eich gwneud chi’n fwy effro yn ystod ail hanner eich cwsg, ac yn eich cadw rhag cael y cwsg dwfn sydd angen arnoch.
Anghywir!
Cywir!
Mae alcohol yn gwneud y corff yn oerach. Gall gormod o alcohol mewn tywydd oer iawn gynyddu’r risg o hypothermia hyd yn oed.
Anghywir!
Cywir!
Bydd coffi yn gwneud i chi deimlo’n fwy effro, ond fydd e ddim yn eich gwneud chi’n llai meddw nac yn gwella pen mawr. Mae coffi’n ddiwretig – mae’n gwneud i chi basio dŵr – felly gall waethygu’ch syched bore trannoeth. Hefyd, gall caffein ei gwneud hi’n fwy anodd i chi sylweddoli os ydych chi’n dal yn feddw, gan arwain at wneud penderfyniadau gwael, fel gyrru pan fydd alcohol yn eich gwaed o hyd.
Anghywir!
Cywir!
Mewn gwirionedd, bydd yfed alcohol yn gwaethygu’ch perfformiad ar y cae. Gall ymarfer gydag alcohol yn eich corff greu lactad, sy’n achosi poenau yn y cyhyrau a chrampiau. Dyw yfed alcohol ar ôl chwaraeon neu ymarfer corff ddim yn syniad da chwaith, gan fod alcohol yn ddiwretig – mae’n gwneud i ni basio gormod o ddŵr – ac felly’n gwaethygu syched.
Anghywir!
Cywir!
Efallai y bydd ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo fymryn yn well ar ôl yfed, ond fydd e ddim yn dadwneud effeithiau alcohol ar eich corff. Yn wir, gall chwysu oherwydd ymarfer corff wneud i golli mwy o ddŵr o’ch corff, ac felly teimlo’n waeth fyth. Hefyd, mae lefel siwgr eich gwaed yn debygol o fod yn isel ar ôl noson o yfed, felly bydd ymarfer corff yn waith caletach o dipyn.
Anghywir!
Cywir!
Weithiau, mae’n anodd i rywun gydnabod bod gyda nhw broblem ag alcohol, ond mae llawer o wasanaethau rhagorol yng Nghymru sy’n gallu helpu pobl i reoli eu diota. Os ydych chi’n poeni am eich arferion yfed eich hun neu rywun arall, ffoniwch DAN24/7 ar 0808 141 0044. Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog sy’n cynnig help a chyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim.
