Problemau iechyd

How is my body affected by alcohol?
Rollover the people to discover the effects of alcohol on your health

Organau atgenhedlu

Gall dynion gael anallu rhywiol (neu 'impotence') dros dro ar ôl goryfed. Gall yfed trwm hirdymor achosi i organau rhywiol dynion a merched grebachu. Gall yfed hefyd arwain at ymddygiad rhywiol llai gofalus gan gynyddu perygl heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Yr iau (neu'r afu)

Mae'r rhan fwyaf o'r alcohol sy'n mynd i mewn i'ch corff yn cael ei brosesu gan eich iau, ac os oes rhaid iddo dorri gormod o alcohol i lawr, bydd iechyd eich iau yn dioddef.

Yn yr hirdymor, gall yfed gormod o alcohol arwain at iau brasterog, hepatitis (yr iau yn chwyddo) a cirrhosis (creithiau ar yr iau).

Y stumog

Gall yfed gormod achosi gastritis (chwyddo yn leinin y stumog) ac wlserau stumog. Gall hefyd arwain at adlif anghyfforddus - sef bwyd wedi'i dreulio yn cael ei wthio i fyny eich pibell fwyd.

Y galon

Gall yfed cymedrol leihau'r risg o glefyd y galon i rai pobl dros 45 oed, ond gall yfed gormod godi eich pwysau gwaed, gan roi straen ar eich calon.

Y geg a'r gwddf

Os byddwch yn yfed mwy na'r hyn a argymhellir yn rheolaidd rydych yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser y geg, y laryncs (corn gwddf), y ffaryncs (y llwnc) a'r bibell fwyd. Gall y risg hon gynyddu ymhellach os ydych yn smygu.

Yr ymennydd

Gall effeithiau yfed ar eich ymennydd gynnwys siarad yn aneglur, ymateb yn araf, anghofio a llewygu. Yn yr hirdymor, gall yfed yn drwm niwedio'r ymennydd mewn sawl ffordd.

Choose from:
  • Heart
  • Stomach
  • Liver
  • Brain
  • Mouth & Throat
  • Reproductive Organs