Chi, Eich Plentyn ac Alcohol
Dros y degawd diwethaf, mae pryder ymysg y cyhoedd am effaith alcohol ar ein hiechyd a’n cymdeithas wedi cynyddu’n raddol. Yr hyn sy’n achosi’r pryder mwyaf yw lefel a phatrwm yfed ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru ac effeithiau hyn ar iechyd, troseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ganllaw ar blant a phobl ifanc yn defnyddio alcohol ym mis Mehefin 2010. Defnyddiwyd yr holl dystiolaeth a oedd ar gael i wneud argymhellion polisi a datblygu’r tair egwyddor lywio ganlynol a fydd yn helpu i warchod ein plant a’n pobl ifanc rhag risgiau defnyddio alcohol.
Dyma’r tair egwyddor lywio:
- Ni ddylai plant dan 15 oed yfed alcohol. Mae tystiolaeth glir y gall alcohol niweidio’r ymennydd, yr esgyrn a’r hormonau wrth iddynt ddatblygu.
- Gall yfed yn 15 oed ac yn hŷn beryglu iechyd. Mae goryfed mewn pyliau a defnydd trwm o alcohol yn rhoi pobl ifanc mewn perygl o anafiadau, ymladd, profiadau rhywiol y byddant yn eu difaru a chamddefnyddio sylweddau eraill.
- Os bydd rhieni’n defnyddio alcohol yn gyfrifol, mae’n fwy tebygol y bydd y plant yn gwneud hynny hefyd. Gall rhieni a gofalwyr warchod plant rhag camddefnyddio alcohol drwy gynnal perthynas agos gyda’u plant, gosod rheolau clir ynghylch alcohol, a goruchwylio’u plant pan fyddant yn yfed.
