Home

Rhaglen Cryfhau Teuluoedd

Mae’r defnydd o alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon gan bobl ifanc yn effeithio ar eu hiechyd yn y tymor byr a’r tymor hir ac mae’n gysylltiedig hefyd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd a gadael yr ysgol yn gynnar.

Mae llawer o’r ffactorau sy’n gwarchod pobl ifanc rhag camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, neu sy’n gwneud y risg o’u camddefnyddio yn uwch, yn gysylltiedig â bywyd teuluol a rhianta. Nod y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd 10-14, sydd wedi’i thrwyddedu yn yr Unol Daleithiau i’w defnyddio yn y DU, yw cryfhau’r ffactorau amddiffynnol hyn (rhianta, cyfathrebu, a sgiliau gwydnwch pobl ifanc) gan leihau’r ffactorau risg allweddol a geir mewn teuluoedd.

Mae’r prosiectau hyn yn rhan o hap dreial wedi’i reoli sy’n cael ei ariannu gan y Fenter Ymchwil Atal Genedlaethol. Bydd yr astudiaeth hon yn archwilio a yw’r canlyniadau a ddaeth i’r fei yn rhaglen yr Unol Daleithiau yn berthnasol yng nghyd-destun y DU. Bydd yn nodi a yw’r rhaglen yn oedi neu’n lleihau’r defnydd o sylweddau, ac yn casglu gwybodaeth a fydd o gymorth wrth roi’r rhaglen ar waith yn ehangach. Cychwynnodd yr hap dreial ym mis Medi 2009 a bydd y canlyniadau ar gael ym mis Mawrth 2014.

Nid yw pob teulu sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd yn sicr o gael lle. I helpu i weld a yw’r Rhaglen wedi bod yn effeithiol o ran gohirio neu leihau’r defnydd o alcohol gan bobl ifanc, caiff y teuluoedd eu rhannu’n ddau grŵp; bydd un grŵp yn derbyn y cymorth ychwanegol trwy’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd, a’r grŵp arall yn derbyn cymorth safonol. Yna, gellir cymharu pa mor effeithiol yw’r ddau fath o driniaeth. Bydd pawb yn cael yr un cyfle i ymuno â’r naill grŵp neu’r llall.

Sefydlwyd canolfan ragoriaeth er mwyn meithrin y gallu a hyfforddi’r cydgysylltwyr a’r hwyluswyr newydd ym mhob ardal. Mae’n seiliedig ar fodel o’r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd a ddatblygwyd yng Nghaerdydd ac sydd wedi’i rhoi ar waith yn llwyddiannus yno ers 2005. Mae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd wedi cynllunio a darparu nifer o raglenni sy’n cynnwys llawer o deuluoedd ledled y ddinas ac mae wedi llwyddo i gael yr arbenigedd, y profiad hyfforddi ac mae wedi ei ardystio i hyfforddi a mentora prosiectau eraill yng Nghymru. Datblygwyd deunyddiau hyfforddi dwyieithog, cynhwysfawr hefyd sy’n cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen.

Mae Rhaglenni Cryfhau Teuluoedd wedi’u sefydlu yng Nghaerffili, Abertawe, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Wrecsam a Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiectau hyn yn rhan o Hap Dreial Wedi’i Reoli a ariennir gan y Fenter Ymchwil Atal Genedlaethol.

Mae’r rhaglen ar gael i unrhyw deulu sy’n byw yn y saith lleoliad hyn ac sydd â phlant rhwng 10 a 14 oed. Mae’r rhaglen ar gyfer rhieni sydd am:

  • Ddatblygu sgiliau rhianta er mwyn helpu plant i gael profiadau da yn eu harddegau
  • Helpu gyda’r profiad o bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • Helpu plant i feithrin y sgiliau fel y gallant osgoi problemau cyffuriau ac alcohol
  • Syniadau newydd i rieni ar sut i siarad â’u plant fel bod y plant yn gwrando
  • Gwella’r berthynas rhwng rhieni a’u plant
  • Bod yn fwy hyderus wrth osod ffiniau
  • Meithrin hyder y plant
  • Helpu plant i osod nodau ar gyfer eu dyfodol a’u cefnogi i gyflawni’r nodau hynny

Bydd yr ymchwil yn golygu bod angen i’r teuluoedd gymryd rhan mewn pedwar cyfweliad dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd pob cyfweliad yn cymryd tua dwy awr ac fe’u cynhelir fin nos fel arfer. Mae gofal plant ar gael ar gyfer plant ifanc a gellir darparu trafnidiaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Cryfhau Teuluoedd. Os ydych am ymuno â’r rhaglen, cysylltwch â’ch tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd lleol.

Manylion Cyswllt

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Caerffili
07824 596991 neu sfp@caerphillyfamilies.co.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Sir Gaerfyrddin
01554 744377 neu family.communityteam@actionforchildren.org.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Sir y Fflint
01244 551247 neu nikki.booth@barnardos.org.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Merthyr Tudful
01685 727395 neu office@drugaidcymru.com

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Abertawe
01792 472002 neu mail@swanseadp.org.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Wrecsam
01978 729786 neu parenting@wrexham.gov.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Caerdydd
02920468589 neu sfp@cardiff.gov.uk

Tîm Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Rhondda Cynon Taf
01443 827000 neu FamiliesFirst@rctcbc.gov.uk

Prosiect Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Cymru
www.projectsfpcymru.co.uk