Home
Mentrau Llywodraeth Cymru
Mentrau Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o leihau problemau iechyd a chymdeithasol o ganlyniad i oryfed. Maen nhw’n buddsoddi mewn nifer o wahanol raglenni er mwyn helpu oedolion, plant a phobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru.
Chi, Eich Plentyn ac Alcohol
Dros y degawd diwethaf, mae pryder ymysg y cyhoedd am effaith alcohol ar ein hiechyd a’n cymdeithas wedi cynyddu’n raddol. Yr hyn sy’n achosi’r pryder mwyaf yw lefel a phatrwm yfed ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru ac effeithiau hyn ar iechyd, troseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rhaglen Cryfhau Teuluoedd
Mae llawer o’r ffactorau sy’n gwarchod pobl ifanc rhag camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, neu sy’n gwneud y risg o’u camddefnyddio yn uwch, yn gysylltiedig â bywyd teuluol a rhianta. Nod y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd 10-14 yw cryfhau’r ffactorau amddiffynnol hyn gan leihau’r ffactorau risg allweddol mewn teuluoedd.
