[Page title]
Eich canllaw iach i fwynhau diod
Chi, eich plentyn ac alcohol
Gall plant ddatblygu eu syniadau am alcohol o oedran cynnar. Gall rhieni a gofalwyr chwarae rhan fawr o ran annog agwedd iach at yfed.
Mae ymchwil yn awgrymu y bydd plant, efallai, yn cael llai o broblemau ag alcohol yn nes ymlaen os bydd y rhai o’u cwmpas yn gosod esiamplau iach, ac yn deal yn iawn am effeithiau alcohol.
Dyma’r tri egwyddor sylfaenol:
• Ni ddylai plant dan 15 oed yfed alcohol o gwbl – gall alcohol niweidio’r ymennydd a’r corff iddyn nhw ddatblygu
• Gall yfed yn 15 oed neu’n hŷn beryglu iechyd o hyd. Mae pyliau o oryfed (binge drinking) ac yfed yn drwm yn gyffredinol rhoi pobl ifanc mewn perygl o anafiadau, ymladd, a phrofiadau rhywiol y byddant yn eu difaru
• Os bydd rhieni’n yfed alcohol yn gyfrifol, mae’n fwy tebygol y bydd eu plant yn gwneud yr un peth. Gall rhieni a gofalwyr warchod plant rhag camddefnyddio alcohol drwy gadw perthynas agos gyda’u plant, gosod rheolau clir ynghylch alcohol, a goruchwylio’u plant pan fyddant yn yfed.
Darllenwch ganllawiau’r Prif Swyddog Meddygol Chi, eich plentyn ac alcohol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynghorion ymarferol i rieni am sut i siarad â’u plant am alcohol.
Wnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, ymweld â Eisteddfod Genedlaethol Cymru i siarad â rhieni a phlant am niwed alcohol a hefyd i drafod pa mor fanteisiol ydyw i deuluoedd siarad am alcohol pan fydd eu plant yn fach. I weld y fideo, cliciwch yma.
