Yr ymennydd
Gall effeithiau yfed ar eich ymennydd gynnwys siarad yn aneglur, ymateb yn araf, anghofio a llewygu. Yn yr hirdymor, gall yfed yn drwm niwedio’r ymennydd mewn sawl ffordd.
Symudwch dros y llun i weld effeithiau alcohol ar eich iechyd DEWISWCH O:
Gall effeithiau yfed ar eich ymennydd gynnwys siarad yn aneglur, ymateb yn araf, anghofio a llewygu. Yn yr hirdymor, gall yfed yn drwm niwedio’r ymennydd mewn sawl ffordd.
Os byddwch yn yfed mwy na’r hyn a argymhellir yn rheolaidd rydych yn cynyddu’r risg o ddatblygu canser y geg, y laryncs (corn gwddf), y ffaryncs (y llwnc) a’r bibell fwyd. Gall y risg hon gynyddu ymhellach os ydych yn smygu.
Er gwaetha’r sôn yn y cyfryngau o bryd i’w gilydd am sut mae gwin coch yn dda i’r galon, does dim dystiolaeth werthchweil dros hynny. Un peth rydyn ni’n ei wybod yn bendant yw bod yfed gormod yn gallu codi pwysau’ch gwaed ac felly codi’r perygl i chi ddioddef clefyd y galon.
Gall yfed gormod achosi gastritis (chwyddo yn leinin y stumog) ac wlserau stumog. Gall hefyd arwain at adlif anghyfforddus – sef bwyd wedi’i dreulio yn cael ei wthio i fyny eich pibell fwyd.
Mae’r rhan fwyaf o’r alcohol sy’n mynd i mewn i’ch corff yn cael ei brosesu gan eich iau, ac os oes rhaid iddo dorri gormod o alcohol i lawr, bydd iechyd eich iau yn dioddef.
Yn yr hirdymor, gall yfed gormod o alcohol arwain at iau brasterog, hepatitis (yr iau yn chwyddo) a cirrhosis (creithiau ar yr iau).
Gall dynion gael anallu rhywiol (neu ‘impotence’) dros dro ar ôl goryfed. Gall yfed trwm hirdymor achosi i organau rhywiol dynion a merched grebachu. Gall yfed hefyd arwain at ymddygiad rhywiol llai gofalus gan gynyddu perygl heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.