Beth yw’r peth gorau i’w wneud?
Os oes gennych chi blant, neu os ydych chi’n gweithio gyda phlant, byddwch chi eisiau eu cadw nhw’n saff rhag cael gormod o alcohol, a rhag dechrau yfed yn rhy ifanc. Dyma ychydig o gynghorion ar sut i helpu plant a phobl ifanc i osgoi’r peryglon.
Plentyndod heb alcohol yw’r ffordd orau i ddechrau bywyd. Ddylai plant dan 15 ddim oed yfed alcohol o gwbl – dyw eu cyrff ddim yn ddigon aeddfed i’w brosesu’n iawn
Efallai fod rhoi gwin wedi’i gymysgu â dŵr yn teimlo’n Gyfandirol, ond does dim tystiolaeth ei fod yn arwain at lai o broblemau alcohol iddyn nhw’n nes ymlaen
Yn yr un moddi, peidiwch â thybio bydd rhoi alcohol i bobl ifanc gartref yn eu cadw nhw rhag mynd allan i feddwi gyda’u ffrindiau – y dystiolaeth yw bod plant sy’n cael alcohol garterf yn fwy tebygol o geisio ei gael mewn llefydd eraill hefyd
Mae plant yn ymateb yn dda i reolau call – rhai maen nhwthau’n eu deall a chithau’n cadw atyn nhw
Os bydd rhieni’n defnyddio alcohol yn gyfrifol, mae’n fwy tebygol y bydd y plant yn yr un fath – ydy eich ymddygiad chi yn dweud wrth eich plant mai alcohol yw’r unig ffordd i ymlacio?
Dyw e byth yn rhy gynnar i drafod alcohol gyda’ch plant – fyddan nhw ddim gwell o aros yn anwybodus
Byddwch yn onest am faint rydych chi’n ei yfed a pham – mae plant yn effro iawn i ragrith
Eisiau gwybod mwy? Cewch chi ddarllen cynghorion Prif Swyddog Meddygol Cymru ar alcohol a phlant.
Efallai y bydd y ffilm fer hon o Awstralia yn rhywbeth i chi gnoi cil arno hefyd.