Bwletin newyddion
Tanysgrifwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Yfwch a meddyliwch mewn unedau. Cofiwch faint gallwch chi ei yfed yn saff
Cadwch ddyddiadur yfed – bydd yn eich helpu i ddeall eich patrwm yfed
Ymlaciwch – mwynhewch ddiod yn araf deg. Does dim rhaid i chi fod yn rhan o bob rownd
Rhowch gynnig ar ddiodydd di-alcohol neu llai eu halcohol
Dyw pawb ddim yn yfed alcohol. Does dim byd anghwrtais am wrthod diod
Cymerwch ddiwrnod neu ddau heb alcohol bob wythnos
Ceisiwch fwyta rhywbeth cyn yfed, ac, os yw’n bosibl, tra byddwch chi’n yfed
Gofynnwch am gymorth os ych chi’n credu ‘bod chi’n yfed gormod – does dim cywilydd codi’r mater