Bwletin newyddion
Tanysgrifwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf
Mae alcohol yn gallu gwneud i chi deimlo’n gysglyd, a’ch helpu chi i fynd i gysgu’n gyflymach. Ond bydd e hefyd yn cadw’ch corff rhag cael y cwsg dwfn sydd angen arnoch chi, gan eich gadael chi’n flinedig fore trannoeth.
Mae yfed alcohol pan ych chi’n feichiog yn gallu brifo’r ffetws, yn enwedig tua dechrau’r beichiogrwydd. Peidio â diota o gwbl yw’r cyngor gorau os ydych chi’n feichiog neu’n trio beichiogi – mae hyn yn symlach weithiau na thrio cadw at un neu ddwy uned yr wythnos.
Mae alcohol yn pylu eich ymenydd fel anesthetig. Mae’n eich drysu chi, yn eich gwneud chi’n fwy lletchwith, ac yn gwneud i chi ymateb yn arafach. Felly mae mwy o berygl i chi gael damwain neu anaf.
Mae anallu dros dro (“pidyn potiwr”) ar ôl sesiwn ddiota’n ddigon cyffredin ymysg dynion. Dros amser hir, mae yfed trwm yn gallu gwneud i ddynion a merched golli’r awydd am ryw, ac yn gallu gwneud i’ch organau rhyw fynd yn llai.
Iselydd yw alcohol. Mae’n arafu sut rydych chi’n meddwl, symud ac ymateb. Felly dim dyna’r ffordd orau i fywiogi.
Mae yfed coffi’n gallu gwneud i chi deimlo’n fwy effro, ond fyddwch chi ddim yn llai meddw, a fydd e dim yn cael gwared ar benmaenmawr. Hefyd, mae yfed caffîn yn gallu ei gwneud hi’n fwy anodd i chi farnu ydych chi’n dal yn feddw neu beidio, gan arwain at benderfyniadau gwael – fel gyrru pan mae alcohol yn dal yn eich gwaed.
Os ydych chi am ragori ar y cae, y cwrt neu’r trac, gofal piau hi efo’r ddiod. Bydd yfed cyn eich camp (hyd yn oed y noson cyn y gêm) yn eich arafu a bydd mwy o berygl anaf neu boeni. Hefyd, bydd e’n codi syched trwy wneud i chi basio gormod o ddŵr.
Ac os ydych chi ’mond yn gwylio’r gêm, yn y stadiwm neu ar y soffa, efallai byddwch chi’n falch i chi bwyllo gyda’r ddiod pan allwch gofio’r cyfan o’r ail hanner.
Dyw llawer o bobl ddim am gydnabod bod ganddyn nhw broblem ag alcohol. Ond bob blwyddyn mae cannoedd o bobl yng Nghymru yn newid eu bywydau ac yn gefnu ar arferion yfed niweidiol. Mae nifer o wasanaethau rhagorol yng Nghymru sy’n gallu helpu gyda hynny. Chwiliwch am eich gwasanaeth lleol yma.
Mae ymarfer corff yn gallu gwneud i ni deimlo fymryn yn well ar ôl yfed, ond allwch chi ddim chwysu’r alcohol o’ch corff. Dim ond amser fydd yn gwaredu’r ddiod o’ch gwaed. Hefyd, mae mwy o berygl i chi frifo cyhyr os buoch chi’n yfed (hyd yn oed y noson cynt) cyn ymarfer eich corff.
Mae llymaid o wisgi neu frandi yn gallu gwneud i chi deimlo’n gynhesach am dipyn. Ond mewn gwirionedd mae alcohol yn oeri’r corff, felly dyw e ddim yn syniad da bob tro mewn tywydd rhewllydd.
Bob yn dipyn yn ystod yr wythnos yw’r peth callaf, gyda dau ddiwrnod o leiaf heb lymaid o’r ddiod. Trwy gynilo’ch unedau a’u hyfed nhw i gyd ar un tro, cewch chi gur pen i’w gofio yn y bore (ac ambell beth basech chi’n licio ei anghofio o’r noson o’r blaen, efallai) a bydd mwy o berygl anaf, damwain neu gwffio.