Gwybod y sgôr: Yfwch lai, mwynhewch fwy
Mae neges syml i bawb sy’n meddwl mwynhau’r 6 Gwlad o’r wythnos yma ymlaen: Yfwch lai, mwynhewch fwy
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael wedi tynnu sylw at sut mae gormod o’r ddiod gadarn yn gallu creu noson wael i chi, i’ch ffrindiau, ac i’r gwasanaethau brys sy’n gorfod tacluso ar eich ôl: “Rydyn ni eisiau i bobl ddeall y canlyniadau pan fyddan nhw’n cael eu rhwydo gan y syniad bod rhaid i noson dda gynnwys meddw’n dwll nes eich peryglu’ch hunan ac eraill. Yn ne Cymru mae gyda ni rai o’r llefydd gorau i fwynhau ac rydyn ni eisiau i bobl wneud yn siŵr ’bod nhw’n cael amser da, trwy fod yn gyfrifol amdanyn nhw’u hunain a’u ffrindiau.”
Mae Capten Cymru, Sam Warburton yn cefnogi’r ymgyrch: “Mae peint a sgwrs da am y gêm yn rhan o’r profiad rygbi i lawer un, ac mae hynny weithiau’n ychwanegu at yr awyrgylch cyfeillgar o gwmpas ein camp ni. Ond peth call yw yfed yn gall.”